TELEDU
Mae Genesis yn gwmni newydd wedi ei ffurfio i gyfuno sgiliau nifer o bobl proffesiynol ym myd teledu. Maent yn arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd yn cynnwys newyddion a materion cyfoes, y celfyddydau, cerddoriaeth, addysg a rhaglenni dogfen.
Mae Alan Torjussen o Genesis wedi treulio dros 30 mlynedd yn cynhyrchu rhaglenni teledu i'w darlledu.
Mae ganddo brofiad eang o weithio fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr rhaglenni o bob math gan gynnwys rhaglenni dogfen, drama, cerddoriaeth, addysg, newyddion a materion cyfoes.
Dangoswyd rhaglenni Alan ar rwydwaith y BBC, rhwydwaith ITV, HTV, Channel 4 ac S4C.
Mae Genesis Media Group yn aelodau o PACT, TAC, LoS, IoV, APV.
CLODRESTRAU CYNHYRCHU Alan Torjussen
Peter Warlock 1 x 60 munud
Drama/ddogfen hanesyddol cerddorol ar fywyd a gwaith y cyfansoddwr pryfoclyd ond talentog o'r 20ed ganrif
Ceiri a'i gerddoriaeth 1 x 30 munud
Rhaglen ddogfen ar y cyfansoddwr a wobrwywyd sef Ceiri Torjussen,sy'n cyfuno ei fywyd yn Los Angeles yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer prif ffilmiau Hollywood gyda'i gomisiynau cerddorol ar gyfer y neuadd gyngerdd
Siarad Cariad 1 x 45
Dogfen am gariad a chydberthynasau
Biology Collection 5 x 25 munud
Cyfres addysg ar gyfer BBC 2
Leila Megane 1 x 60 munud
Dogfen gerddorol ar fywyd a gwaith un o gantorion opera gorau Prydain
CYNHYRCHU FIDEO CORFFORAETHOL
Mae Genesis yn cynhyrchu fideos, DVDs a CD Roms ar gyfer cwmniau masnachol, asiantaethau hysbysebu a chyrff heb fod yn rhai'r llywodraeth.
Mae gan y cwmni hanes hir o gynhyrchu cyfathrebiadau corfforaethol llwyddiannus a hynny weithiau mewn amser byr gyda chyllidebau prin.
Gall cynhyrchu fideo corfforaethol yn Genesis fod yn gost-effeithiol gan fod y cwmni yn berchennog ar ei holl offer technegol ei hunan gan gynnwys y camerau fideo digidol mwyaf diweddar.
Gallwn yrru enghreifftiau o blith ein rhestri hir o gynyrchiadau blaenorol ar dapiau VHS i gwsmeriaid corfforaethol arfaethedig.
I dderbyn enghraifft o'n gwaith cysylltwch a Genesis Media neu'n syml
CLICIWCH YMA







